P-03-263 Rhestru Parc y Strade

 

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog y Gweinidog dros Dreftadaeth i roi statws rhestredig i Barc y Strade, er mwyn diogelu treftadaeth y maes rygbi byd enwog a’r eicon diwylliannol hwn i bobl Cymru.

 

Cynigwyd gan: MrV Jones

 

Y dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf:Tachwedd 2009

Nifer y llofnodion: 4,383

 

Deiseb i restru Parc y Strade

 

Cafodd y ddeiseb i restru Parc y Strade ei hysbrydoli gan alwadau “i wneud rhywbeth” i ddiogelu treftadaeth y lleoliad enwog hwn. Mae’n arwyddocaol bod y galwadau hyn wedi parhau wedi i’r Scarlets symud ar draws Llanelli i’w stadiwm newydd. Mae’n amlwg bod Parc y Strade yn fwy na dim ond stadiwm lle byddai pobl yn gwylio rygbi – mae’n rhan o ddiwylliant lleol ac o dreftadaeth genedlaethol.

 

Gellir diffinio eicon diwylliannol fel unrhyw beth sy’n hawdd ei adnabod ac, yn gyffredinol,  mae’n cynrychioli gwrthrych neu gysyniad sydd â chryn arwyddocâd diwylliannol i grŵp diwylliannol eang. Ymhen amser,  gall fod â statws arbennig fel rhywbeth sy’n cynrychioli grŵp arbennig o bobl neu gyfnod arbennig mewn hanes. 

 

Mae Parc y Strade yn symbol o gefnogaeth cymuned Gymreig i’w chlwb rygbi yn yr ugeinfed ganrif – y mae, heb amheuaeth, yn eicon diwylliannol.

 

Mae Parc y Strade yn adnabyddus drwy’r byd i gyd, nid yn unig oherwydd gorchestion y rhai a fu’n chwarae ar y cae enwog, ond hefyd oherwydd cefnogaeth angerddol y rhai a fyddai’n heidio i’r eisteddle a’r teras yn ystod y gemau, ac yn heidio ar y cae ei hun yn ystod hanner amser ac ar ôl y chwiban olaf.

 

Daeth y gefnogaeth honno’n enwog drwy’r byd fel  cefnogaeth nodweddiadol Gymreig, a chryfhawyd y ddelwedd gan ganeuon yn dathlu buddugoliaethau enwog ym Mharc y Strade, fel cân “9-3” Max Boyce am fuddugoliaeth 1972 dros y Crysau Duon – y tro diwethaf i unrhyw dîm clwb eu trechu. Mae’r geiriau “All roads led to Stradey Park”, “The day the pubs ran dry” ac “I was there” i gyd yn ein hatgoffa o’r diwrnod hwnnw ym Mharc y Strade pan gafodd y capten, Delme Thomas, ei gario oddi ar y cae gan ei gyd chwaraewyr, drwy ganol miloedd o gefnogwyr. 

 

Pan sonnir am Barc y Strade, y darlun a ddaw i’r meddwl yw gweithwyr yn gorffen eu sifft yn y gweithfeydd tunplat, y dociau neu’r pyllau glo cyn chwarae gêm o flaen miloedd o’u cydweithwyr  o Tinopolis. Gosodwyd y sosbenni enwog ar byst y Strade i gyfeirio’n uniongyrchol at y prif gynnyrch a allforiwyd o Lanelli - tunplat - ac yn enwedig y gwaith “stampio” lai na milltir o Barc y Strade lle byddai sosbenni’n cael eu cynhyrchu a’u hallforio i bob cwr o’r byd.

 

Roedd Parc y Strade yn cael ei ystyried bob amser fel cae ‘mwyaf Cymreig’ Cymru, gyda’r sgorfwrdd  Cymraeg a’r caneuon Cymraeg y byddai’r dorf yn eu canu. Daeth ‘Sosban Fach’ yn adnabyddus drwy’r byd i gyd wedi i’r cefnogwyr ei mabwysiadu a’i chanu oherwydd y ‘sosbenni’ ar y pyst. Cynhaliwyd cymanfa ganu cyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon ym 1972. 

 

Fel cae rygbi a oedd yn galon i’r gymuned, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ar wahân i rygbi ym Mharc  y Strade,  gan gynnwys nifer o chwaraeon eraill, a byddai noson Guto Ffowc a thân gwyllt yn cael ei chynnal yno bob blwyddyn.

 

Ar 15 Tachwedd 2007, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ar gael Parc y Strade. Roedd hwn yn ddigwyddiad unigryw yn hanes Cymru ac fe’i disgrifiwyd yn y wasg fel ‘angladd gwladol Cymreig’. Daeth 6000 o bobl i’r stadiwm i alaru, gan gynnwys pobl flaenllaw o’r byd gwleidyddol,  y byd diwylliannol a’r byd chwaraeon yng Nghymru ac roedd miloedd eto’n llenwi’r strydoedd y tu allan. Cafodd lluniau o’r arch ar y cae, a Cheidwad y Cledd wrth ei hochr, ynghyd â’r holl bobl a fu’n talu teyrnged iddo, eu darlledu’n fyw ar S4C. 

 

Heb amheuaeth, mae arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol pwysig i Barc y Strade o safbwynt Cymru. Gwelwyd sawl brwydr  ar y cae, ac roedd yn symbol  penodol  o angerdd y Cymry dros rygbi yn yr ugeinfed ganrif. Llwyddwyd i gasglu dros 3500 o lofnodion ac mae’r ffaith bod hon yn ddeiseb sy’n ymwneud â threftadaeth yn hytrach na rygbi yn ychwanegu at arwyddocâd hynny. Casglwyd y ddeiseb ar gownteri siopau drwy sir Gaerfyrddin a, heb fawr ddim cyhoeddusrwydd, cafwyd cefnogaeth gref gan fod pobl yn credu y dylid achub cae Parc y Strade i nodi’i leoliad a’i dreftadaeth.

 

Er mai teitl y ddeiseb yw ‘Rhestru Parc y Strade’, a byddai llawer yn hoffi gweld y stadiwm gyfan yn cael ei hachub,  derbynnir yn gyffredinol y byddai rhestru Parc y Strade yn golygu rhestru’r cae a’i gadw fel man agored fel rhan o unrhyw ddatblygiad. Mae’r cae hwn, lle gwelwyd sawl brwydr yn yr oes fodern,  mor unigryw oherwydd y cyfan sydd wedi digwydd arno; buddugoliaethau’r tîm rygbi wrth gwrs ac ‘angladd gwladol’ bythgofiadwy Ray Gravell, ond hefyd yr atgofion am yr holl gefnogwyr a fyddai’n heidio ar y cae yn ystod hanner amser ac ar ôl y chwiban olaf i chwarae yn yr union fan lle’r oedd eu harwyr newydd fod yn sefyll.  

 

I restru cae chwarae, mae’n debyg y bydd angen creu categori rhestru newydd neu newid un o’r categorïau presennol. Wrth i bwysigrwydd y diwydiant ymwelwyr  gynyddu o hyd yng Nghymru, mae angen diogelu lleoliadau sy’n bwysig i dreftadaeth fodern Cymru, fel Parc y Strade, felly mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd i Cadw i greu neu i newid categori rhestru ar gyfer meysydd chwarae.  

 

Cyn gynted ag y caiff safle fel Parc y Strade ei golli fel rhan o gynllun datblygu, mae’n mynd yn gwbl ddiwerth. Hwyrach y bydd ambell ymwelydd yn cael ei ddenu i ddarllen panel gwybodaeth neu blac glas ger y safle, ond go brin y byddai hynny o unrhyw fudd i’r economi leol. Mae angen gwarchod lleoedd fel Parc y Strade i ganiatáu iddynt gael eu marchnata fel safleoedd treftadaeth Cymru fodern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae ymwelwyr am fedru troedio’r cae, nid dim ond darllen amdano.

 

Yn ogystal â’r 3500+ o lofnodion, mae grŵp Facebook, sydd â dros 520 o aelodau, nifer o gyrff lleol, gan gynnwys Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli, yn cefnogi amcanion y ddeiseb, sef gwarchod cae Parc y Strade. Nid oes gan yr un o’r cyrff hyn, fodd bynnag, y pŵer i wneud hynny.

 

Cafwyd cefnogaeth ryngwladol i’r ddeiseb, yn ogystal â chefnogaeth o rannau eraill o Gymru a’r DU, gan ddangos yn glir fod pwysigrwydd cenedlaethol ynghlwm wrth Barc y Strade. Yn lleol, mae’r ddeiseb hefyd wedi cael cefnogaeth cyn fawrion timau Llanelli, Cymru a’r Llewod fel Delme Thomas a  Phil Bennett.

 

Mae gwefan yn cefnogi’r ddeiseb i’w gweld os ewch i  www.stradeyparkpetition.co.uk.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd,  o hanes Ystâd Stradey yn rhoi darn o dir o fewn ei waliau terfyn i greu’r cae ym 1879  hyd at gau’r stadiwm ym mis Hydref 2008.